Subscribe to Latest Posts

25 Mar 2009

CYNGOR POBL GOGLEDD CYMRU

Posted by admin. No Comments

cpdragon1

Yn dilyn cyfarfod o Bwyllgor Archwilio Amgylchfyd ac Adnewyddu Cyngor Wrecsam ar 23ain Mawrth 2009, roedd aelodau o’r cyhoedd a oedd wedi mynychu’r cyfarfod wedi’u dylanwadu cymaint gan yr hyn a ddigwyddodd nes iddynt alw cyfarfod eu hunain i drafod beth i’w wneud fel canlyniad.

Yng nghyfarfod y Pwyllgor Archwilio cafwyd trafodaeth ar strategaeth is-ranbarthol Gorll. Sir Gaer a Gog.Ddwyrain Cymru. Yn y bon, nôd y strategaeth yma (a fabwysiadwyd gan gynghorau Wrecsam, Fflint a Dinbych yn 2006) ydi uno Gog.

Ddwyrain Cymru â Sir Gaer a Glannau Mersi, yn economaidd ac yn ddemograffaidd. Roedd yr aelodau hyn o’r cyhoedd yn poeni’n fawr am y strategaeth sydd ddim wedi’i drafod ar goedd, hyd yma. Yn ogystal, mae rhai o blith y cyhoedd sy’n gwybod am y strategaeth yn poeni’n ddirfawr am y ffordd y mae wedi datblygu’n bolisi cynllunio statudol heb unrhyw archwiliad. Yn y cyfarfod pwyllgor archwilio, cafodd safbwynt yr aelodau yma o’r cyhoedd ei sgubo o’r neilltu gan swyddogion y Cyngor a’i wawdio gan arweinwyr y Cyngor! Pleidleisiodd y pwyllgor YN ERBYN arolygu Cynghrair Mersi Dyfrdwy (y corff sy’n gweithredu’r strategaeth is-ranbarthol).

Yn dilyn cyfarfod y pwyllgor strategaeth, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus pan drafodwyd holl fater y strategaeth is-ranbarthol ac agwedd amddiffynnol y cyngor ynglyn â’r cynlluniau yma.

Ynglyn â’r strategaeth is-ranbarthol, daethpwyd i’r casgliad mai nôd y strategaeth yn y bôn ydi ehangu Sir Gaer a Glannau Mersi i gynnwys Gog. Ddwyrain Cymru. Mewn gair, oherwydd cyfyngu ar adeiladu a dymuniad i gadw eu cylch o dir glas, mae cyfyngiad ar ddatblygu o fewn Sir Gaer a Glannau Mersi. Yng Nghymru, nid oes amgylch, neu wregys, tir glas a gwêl y strategwyr Ogledd Cymru fel yr ateb i’r cyfyngu ar ddatblygu. Mae’r rhaglen ehangu yn anwybyddu’r Ffin Genedlaethol.Yn aml o fewn y cynllun sonir am golli’r ymwybyddiaeth o Gymreictod a bod mewnfudo o Ogledd-Orll. Lloegr yn achosi hyn. Yn gryno, Gog.-Ddwyrain Cymru fydd yn darparu ar gyfer marchnad dai Gog.-Orllewin Lloegr gan ddod yn ‘ardal gwsg’ i bobl o Loegr.

Cynllun newid cymdeithas a geir yma ac ni ddylid bod wedi’i ganiatau ond mae o wedi’i fabwysiadu erbyn hyn ac mae eiddylanwad i’w weld ar bron pob cais cynllunio. Dydi’r cynllun ddim wedi’i archwilio gan neb ar wahan i’r Bwrdd Gweinyddu. (Mae aelodau’r bwrdd gweinyddu hefyd yn aelodau o Gynghrair Mersi/Dyfrdwy) ac, yn gyffredinol, mae’r ffordd y gwthiwyd y cynlluniau drwodd yn an-nemocrataidd a dirgel iawn.

Oherwydd hyn fe ffurfiodd aelodau o’r cyhoedd Gyngor Pobl Gogledd Cymru gyda’r bwriad o:

a) Hysbysu pobl Gogledd Cymru am strategaeth is-ranbarthol Gorll. Sir Gaer/Gog. Ddwyrain Cymru.

b) Ymgyrchu yn erbyn y strategaeth is-ranbarthol.

c) Bod yn llais dros bobl Gogledd Cymru.

d) Herio ffordd o ymddwyn an-nemocrataidd, anfoesol a rhag- farnllyd o fewn ein llywodraeth leol.

e) Gweithio dros ennill lle i’r bobl gyffredin yng ngweledigaeth y Cynulliad Cenedlaethol fel y gwelir ef yn y ddogfen Cymru’n Un.

f) Darparu cynlluniau datblygu amgen sy’n adlewyrchu anghenion a gobeithion pobl leol.

ff) Cadw a hyrwyddo’n hamgylchfyd, cymunedau a hunaniaeth Cymreig.

I ddod yn gefnogwr o Gyngor Pobl Gogledd Cymru, cliciwch yma